Mae
Helen Mary Jones yn Aelod Cynulliad dros etholaeth Llanelli. Bu
Helen Mary yn cynrychioli Plaid Cymru yn etholaeth Llanelli rhwng
mis Mai 1999 a Mai 2003. Collodd hi'r sedd o 21 pleidlais yn unig
yn 2003, ond ail-ennillodd y sedd ym mis Mai 2007 gyda mwyafrif
o 3,884. Rhwng 2003 a 2007 bu Helen yn aelod Cynulliad dros Ranbarth
Gorllewin a Chanolbarth Cymru.
Fei ganwyd yn 1960 yn Colchester, Essex ac
fei haddysgwyd yn Colchester County High School for Girls,
Ysgol Uwchradd Llanfair Caereinion a Choleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth.
Cyn cael ei hethol, roedd Helen yn gweithio fel
Is Gyfarwyddydd Datblygu gyda Chomisiwn Cyfle Cyfartal Cymru. Bu'n
gweithio gyda'r sectorau cyhoeddus a gwirfoddol fel gweithwraig
ieuenctid-cymunedol ac athrawes anghenion arbennig, ac mae'n gyn-aelod
o Grwp Ymgynghorol y Cynulliad Cenedlaethol.
Safodd yn etholaeth Islwyn yn etholiadau cyffredinol
1992, gan herio Arweinydd y Blaid Lafur ar y pryd, Neil Kinnock,
a safodd hefyd yn Sir Drefaldwyn yn etholiadau 1997.
Maen aelod or pwyllgor Amgylchedd,
Cynllunio a Chefn Gwlad, y Pwyllgor Cyfle Cyfartal a Phartneriaeth
Sector gwirfoddol ac mae ei diddordebau gwleidyddol yn cynnwys yr
amgylchedd, yr iaith Gymraeg, hawliau plant a chyfiawnder cymdeithasol.
Hi yw Gweinidog yr Wrthblaid dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
yn y Cynulliad Cenedlaethol.
Dysgodd Helen Mary i siarad Cymraeg fel oedolyn,
ac mae hi hefyd yn siarad Saesneg a Ffrangeg elfennol.
Mae Helen Mary yn rhannu ei hamser rhwng ei chartref
yn Nhrimsaran a Chaerdydd. Maen mwynhau treulio amser gyda
ei merch Catrin, nofio, darllen a meddwl am ddecrhrau garddio yn
ei hamser sbar.