Helen Mary Jones AC / AM
Etholiad y Cynulliad 2007 - Etholaeth Llanelli
English

Helen Mary Jones Pan cefais fy newis gan Blaid Cymru i ymladd etholiad y Cynulliad ym 1999, roeddwn yn newydd-ddyfodiad i'r ardal. Yn y blynyddoedd yn dilyn yr etholiad, rwyf wedi dod i uniaethu yn gryf gyda chymunedau'r etholaeth.

Rwyf wedi synnu o'r ochr orau gan egni a dyfal-barhad pobl yr etholaeth, yn rhedeg clybiau chwaraeon, grwpiau ieuenctid, cymdeithasau celf, a channoedd o grwpiau eraill, oll yn gweithio i wella bywyd pobl yn ein trefi a phentrefi.

Mae'n fy ngwneud yn grac iawn i weld y bobl a'r cymunedau hynny yn cael eu bradychu gan y Llywodraeth Lafur. Mae wedi bod y fraint cynrychioli pobl etholaeth LIanelli ers 1999, yn gyntaf fel yr Aelod Cynulliad Lleol ac ers 2003 fel un o'n haelodau etholedig rhanbarthol, ac rwyf wedi ymladd yn gyson dros yr hyn mae ar ein cymunedau eu angen, ac yn eu haeddu.

Rwyf wedi penderfynu y byddaf yn sefyll dros etholaeth Llanelli yn unig yn 2007, ac nid ar y rhestr rhanbarthol hefyd. Rwyf wedi gwneud fy ngorau i wasanaethu pobl y rhanbarth gyfan, a byddaf wrth gwrs yn parhau i wneud hynny, ond mae fy nghalon yma yn etholaeth Llanelli. Rwyf am ddefnyddio fy holl amser ac egni i wasanaethu pobl Llanelli, ac rwyf wrth fy modd imi gael fy newis gan aelodau lleol Plaid Cymru i sefyll yn 2007.

Mae heriau di-ri o'n blaen. Rydym wedi colli dros 1000 o swyddi gweithgynhyrchu ers 2003. Mae'r Llywodraeth Llafur Newydd wedi gwastraffu'r cyfle a ddarparwyd gan arian Ewropeaidd Amcan Un i sefydlu swyddi safonol hir-dymor. Os bydd cynllun Iechyd newydd y Llywodraeth Llafur "Designed for Life" yn cael ei wireddu'n llawn, byddwn yn gweld ein gwasanaethau iechyd yn cael eu canoli ymhellach, ac is-raddio pellach ein hysbytai.

Mae pobl ifanc yn ei chael hi'n anos nag erioed i fforddio prynu cartrefi, ac eto mae'r Llywodraeth Llafur yn torri'r gyllideb tai. Maent wedi methu cyllido eu cynllun i achub yr iaith Gymraeg, Iaith Pawb, sy'n golygu fod mentrau newydd megis Canolfan yr Iaith Gymraeg Llanelli yn ei chael hi'n anodd iawn i sefydlu. Rhaid i bethau NEWID. Gallai pethau fod mor wahanol.

Rydym wedi dangos ein bod yn gallu curo'r Llywodraeth Lhafur pan fyddwn ni'n sefyll fel un; gwelwn hyn gyda'r ymgyrch lwyddiannus i gyllido ein Hosbis, ymgyrch yr oeddwn i'n falch iawn i'w gefnogi. Rwy'n addo i bobl Llanelli na fyddaf i byth yn caniatau i unrhyw Lywodraeth esgeuluso ein cymunedau eto.

Ymunwch - Join

Pwyswch ar un o'r dolenni isod i agor y dogfennau pdf.

Llais Llanelli

Polisiau - policies

Iechyd - Health

Amgylchedd - environment

Nid oes gan Blaid Cymru gefnogaeth busnesau mawr. Nid oes ganddom ni filiynau i'w gwario. Rydym yn dibynnu'n llwyr ar haelioni ein cefnogwyr ac aelodau.

Oes unrhywbeth y gelli di ei wneud i helpu gyda'r ymgyrch i gipio Llanelli yn ôI i'r Blaid yn 2007? Mae angen cefnogwyr arnom i godi posteri, dosbarthu taflenni, trefnu gweithgareddau codi arian, canfasio o ddrws i ddrws a llawer mwy.

Os gelli di wneud unrhywbeth i helpu, cysyllta â ni.

Dyfal donc a dyr y garreg! - Mae angen dy gefnogaeth ar Blaid Cymru yn etholaeth Llanelli!
© Helen Mary Jones | Plaid Cymru
Plaid Cymru