Helen Mary Jones AC / AM
Hafanddalen
English

Helen Mary Jones Diolch am ymweld â'r wefan. Gobeithio y byddwch yn llwyddo dod o hyd i'r holl wybodaeth perthnasol. Ar y wefan, bydd modd i chi gael mwy o wybodaeth amdanaf a darllen am bolisiau'r Blaid. Cysylltwch â mi os am fwy o wybodaeth.

Ymunais â Phlaid Cymru gan fy mod yn credu yng Nghymru. Mae cymaint o botensial yn ein cymunedau, a chymaint o unigolion talentog ac ymroddgar.

Mae ein hiaith unigryw a diwylliannau cyfoethog wedi goroesi ac yn tyfu. Mae ein diwylliant gwleidyddol yn dyst i draddodiad clodwiw o ymroddiad i gyfiawnder, tegwch a chydraddoldeb. Mae prydferthwch ac amrywiaeth ein amgylchedd naturiol yn gallu cystadlu ag unrhyw amgylchedd arall yn y byd.

Rydym yn genedl fechan, ond yn un arbennig iawn. Pan ddes i yma i fyw o Dde-Ddwyrain Lloegr yn fy arddegau, fe wyddwn fy mod wedi cyrraedd adref.

Mae'n fy ngwneud yn grac ac yn drist i weld y potensial yn cael ei wastraffu, i weld yr iaith a'r diwylliannau yn cael eu hesgeulso gan y Llywodraeth a phwerau'r farchnad rydd, i weld ein diwylliant gwleidyddol yn cael ei fradychu yn sinigaidd gan y Blaid Lafur a'r amgylchedd yn cael ei ysbeilio a'i ddiraddio.

Nid oes angen iddi fod fel hyn.

Rydym wedi goroesi fel cenedl ar waetha'r elyniaeth a'r esgeuluso gan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol San Steffan. Mae ein cymunedau wedi goroesi serch gorfod wynebu degawdau o Gynghorau pwdwr Llafur yn gwasanaethu er eu budd eu hunain.

Dyma'n cyfle i wneud mwy na bodoli yn unig. Wedi etholiadau 2007, gallwn ddefnyddio'r Cyulliad Cenedlaethol, er ei wendidau, i wneud gwahaniaeth mawr i fywyd pobl Cymru. Gallwn weddnewid y Cynulliad i fod yn Senedd go iawn, a gallwn ddefnyddio'r Senedd fel llwyfan i adeiladu hyder pobl Cymru ar y llwybr i annibyniaeth.

Mae angen i ni ysbrydoli pobl i sylweddoli yr hyn y gallwn ni ei gyflawni yma yng Nghymru, ac yn fyd-eang, i hyrwyddo heddwch a chyfiawnder. Mae llwyth o waith gwleidyddol sydd angen ei wneud.

Mae'r daith yn addo i fod yn un gyffrous.

A ddewch chi gyda ni?

Ymunwch - Join

Pwyswch ar un o'r dolenni isod i agor y dogfennau pdf.

Llais Llanelli

Polisiau - policies

Iechyd - Health

Amgylchedd - environment

© Helen Mary Jones | Plaid Cymru
Plaid Cymru