|
Polisiau
|
|
Ein hamcanion
1. Hyrwyddo cynnydd cyfansoddiadol Cymru gyda'r nod o ennill Statws Cenedlaethol Llawn o fewn yr Undeb Ewropeaidd. 2. Sicrhau llewyrch economaidd, cyfiawnder cymdeithasol a lles yr amgylchedd naturiol, yn seiliedig ar sosialaeth ddatganolaidd. 3. Adeiladu cymdeithas genedlaethol yn seiliedig ar ddinasyddiaeth gyfartal, parch i wahanol draddodiadau a diwylliannau, a gwerth cydradd pob unigolyn, beth bynnag fo'i hil, cenedligrwydd, rhyw, lliw, credo, rhywioldeb, oedran, abledd na chefndir cymdeithasol. 4. Creu cymdeithas ddwyieithog drwy hyrwyddo adfywiad yr iaith Gymraeg. 5. Hyrwyddo cyfraniad Cymru i'r gymdeithas fyd-eang ac ennill iddi yr hawl i aelodaeth o'r Cenhedloedd Unedig. Mae modd darllen am fwy o bolisiau Plaid Cymru yn etholaeth Llanelli trwy bwyso ar y dogfennau pdf i'r dde neu am fwy o bolisiau cenedlaethol ewch i brif wefan y Blaid. |
Pwyswch ar un o'r dolenni isod i agor y dogfennau pdf. |
|
© Helen Mary Jones | Plaid
Cymru
|